Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-04-13 papur 7

Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd: Paratoi a chyhoeddi amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru - Llywodraeth Cymru (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi)

 

Diben

  1. Mae'r papur hwn yn amlinellu pa amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd sydd ar gael ar gyfer Cymru ac ardaloedd yng Nghymru; sut y cânt eu llunio a rhai o'r cyfyngiadau o ran eu defnyddio; sut y caiff awdurdodau lleol yng Nghymru ddata, meddalwedd a chyngor i'w galluogi i wneud rhagor o waith modelu, gan ystyried amgylchiadau lleol manylach, os yw hynny'n briodol, er mwyn llunio amcanestyniadau lleol amgen i'w hystyried wrth baratoi cynlluniau Datblygu Lleol; a phryd y bydd y set nesaf o amcanestyniadau ar gael.

 

Amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd a baratowyd ar gyfer Cymru

 

  1. Amcanestyniadau ar gyfer Cymru

 

3.    Pan baratowyd yr amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf (yn seiliedig ar 2008) rhoddwyd taflen ganllaw i ddefnyddwyr yr amcanestyniadau. Mae'r daflen hon ar gael yma:

http://wales.gov.uk/topics/statistics/publications/popprojectionsguidance08/?skip=1&lang=cy

 

4.    Un o negeseuon allweddol y daflen ganllaw yw mai dim ond nodi'r hyn a all ddigwydd os bydd tueddiadau diweddar yn parhau y mae'r amcanestyniadau'n ei wneud a bod cyfyngiadau penodol o ran defnyddio amcanestyniadau poblogaeth:

 

  1. Cyfyngiadau amcanestyniadau poblogaeth

§  Amcanestyniadau yn seiliedig ar dueddiadau yw'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol. Nid ydynt yn rhagolygon yn seiliedig ar bolisi ac nid ydynt yn darparu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau poblogaeth, dosbarthiad na newidiadau yn y dyfodol.

§  Oherwydd maint llifau mudo, yn achos rhai awdurdodau lleol, mae tybiaethau ynghylch mudo yn bwysicach na thybiaethau ynghylch ffrwythlondeb a marwolaethau. Felly, gall tybiaethau ynghylch mudo gael effaith sylweddol ar ardaloedd penodol yn yr hirdymor.

§  Er mwyn dangos yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcanestyniadau poblogaeth, cyhoeddwyd hefyd amcanestyniadau amrywiadol ar y cyd â'r prif amcanestyniadau poblogaeth.

§  Dylid felly ystyried y prif amcanestyniadau yn fan cychwyn, ac anogir awdurdodau lleol i lunio eu hamrywiolion eu hunain.

§  Daw amcanestyniadau yn fwy ansicr wrth i ni geisio edrych ymhellach i'r dyfodol.  

 

  1. Rhoddodd y ddogfen ganllaw hefyd gyngor ynghylch pryd i ddefnyddio amcanestyniadau cenedlaethol ac awdurdod lleol:

§  Mae'r dull a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r amcanestyniadau poblogaeth hyn ar gyfer awdurdodau lleol yn cynnwys defnyddio data a thueddiadau ar gyfer awdurdodau lleol, ond heb orfodi'r amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol i gyfateb i boblogaeth amcanestynedig cenedlaethol Cymru.

§  Er bod yr amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol a'r amcanestyniadau cenedlaethol yn dangos patrwm tebyg, argymhellir y dylid defnyddio'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol a lunnir gan Lywodraeth Cymru wrth gymharu poblogaeth amcanestynedig un awdurdod lleol neu fwy yng Nghymru .

§  Dim ond wrth edrych ar boblogaeth amcanestynedig un awdurdod lleol neu fwy fel canran o gyfanswm Cymru y dylid defnyddio cyfanswm yr amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol.

§  Wrth edrych ar boblogaeth amcanestynedig Cymru gyfan neu ei gymharu â gwledydd eraill y DU, dylid defnyddio'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a luniwyd gan SYG.

 

  1. Amcanestyniadau Aelwydydd ar gyfer Cymru

 

§  Yn debyg iawn i amcanestyniadau poblogaeth, mae amcanestyniadau aelwydydd yn amcangyfrif nifer yr aelwydydd yn y dyfodol, ac maent yn seiliedig ar dybiaethau am dwf y boblogaeth a chyfansoddiad a maint aelwydydd yn y dyfodol. Mae'r tybiaethau yn seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol ac felly dim ond nodi'r hyn a all ddigwydd os bydd tueddiadau diweddar yn parhau y mae'r amcanestyniadau'n ei wneud. Nid ydynt yn rhagolygon sy'n seiliedig ar bolisi.

§  Mae'r amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth sy'n seiliedig ar dybiaethau ynghylch ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Byddai newid y tybiaethau sylfaenol hyn yn arwain at ganlyniadau gwahanol ar gyfer niferoedd amcanestynedig yr aelwydydd yn y dyfodol.

§  Er mwyn dangos yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcanestyniadau aelwydydd, cyhoeddwyd hefyd amcanestyniadau amrywiadol ar y cyd â'r prif amcanestyniadau poblogaeth.

§  Gan mai proses gronnol yw newid demograffig, daw amcanestyniadau'n fwy ansicr wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Fel gydag amcanestyniadau poblogaeth, mae cyfyngiadau penodol o ran y modd y gellir defnyddio amcanestyniadau aelwydydd, a amlinellir yn y cyhoeddiadau a gyhoeddir ar y cyd â'r amcanestyniadau.

 

Y dull o lunio amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru

 

8.    Mae SYG yn llunio amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer y DU a'i phedair gwlad gyfansoddol (gan gynnwys Cymru) fel arfer bob dwy flynedd.  Mae'r rhain yn canolbwyntio ar gyfnod o 25 mlynedd. Mae'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol diweddaraf ar gyfer Cymru yn seiliedig ar 2010 ac fe'u cyhoeddwyd gan SYG ym mis Hydref 2011. Mae crynodeb o'r canlyniadau ar gyfer Cymru ar gael ym Mwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru, SB 103/2011 National Population Projections 2010-based

 

  1. Ar y cyfan, mae Amcanestyniadau Poblogaeth ar Gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac Amcanestyniadau Aelwydydd ar gyfer Cymru wedi'u diweddaru bob dwy flynedd. Ers y set yn seiliedig ar 2006, lluniwyd y rhain gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru yn flaenorol). Ar gyfer pob set o amcanestyniadau, llunnir Adroddiad Cryno sy'n cymharu ac yn cyferbynnu'r patrymau ym mhob awdurdod lleol. O ran yr Amcanestyniadau Poblogaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol, mae Adroddiad Awdurdod Lleol wedi darparu dadansoddiad manwl fesul awdurdod lleol ar gyfer pob set o amcanestyniadau. O ran yr Amcanestyniadau Aelwydydd, lluniwyd Adroddiad Awdurdod Lleol ar gyfer y set yn seiliedig ar 2006 ond ar gyfer y set yn seiliedig ar 2008, cynigiodd ystadegwyr ddarparu'r un dadansoddiad manwl fesul awdurdod lleol ar gais.

 

  1. Mae'r amcanestyniadau poblogaeth ac amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn seiliedig ar 2008 ac fe'u cyhoeddwyd yn 2010. Maent ar gael ar wefan Swyddfa Ystadegau Cymru drwy ddilyn y dolenni isod:

 

Amcanestyniadau Poblogaeth Awdurdodau Lleol Cymru (sail-2008)

http://wales.gov.uk/topics/statistics/theme/population/pop-project/popprojla/?skip=1&lang=cy

 

Amcanestyniadau Aelwydydd Awdurdodau Lleol Cymru (sail-2008)

http://wales.gov.uk/topics/statistics/theme/housing/estimate/hsehold-proj/?skip=1&lang=cy

 

  1. Mae'r amcanestyniadau poblogaeth manwl (prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau amrywiadol) hefyd ar gael yn ôl awdurdod lleol, oedran a rhyw ar gyfer cyfnod 25 mlynedd yr amcanestyniad ar wefan system lledaenu data ystadegol ar-lein Llywodraeth Cymru, StatsCymru, felly hefyd amcanestyniadau aelwydydd yn ôl awdurdod lleol a'r math o aelwyd ar gyfer yr un cyfnod. Mae hyn yn galluogi'r defnyddiwr i weld, trin a lawrlwytho data manwl.

 

12.  Caiff amcanestyniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol eu llunio gan ddefnyddio methodoleg gyson. Cymhwyswyd y fethodoleg hon i bob ardal awdurdod lleol fel y gellir cymharu ardaloedd daearyddol a nodweddion demograffig. Datblygwyd y fethodoleg mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr o awdurdodau lleol a defnyddwyr allweddol yng Nghymru drwy ddau grŵp cyngor technegol, Gweithgor Amcanestyniadau Poblogaeth Is-genedlaethol Cymru (WASPP) a Gweithgor Amcanestyniadau Aelwydydd Is-genedlaethol Cymru (WASHP). Mae'r ddau grŵp hyn wedi bod yn is-grŵp i Bwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru (WSLC). Mae'r gweithgorau'n cynnwys cynrychiolwyr â gwybodaeth am ddata demograffig ac amcanestyniadau poblogaeth neu brofiad o'u defnyddio, ac, yn achos WASHP, brofiad o ddefnyddio data tai. Mae aelodau'r grwpiau'n cynnwys pobl o awdurdodau lleol, Parc Cenedlaethol, yr Uned Ddata ac Adran Ystadegol Llywodraeth Cymru. Defnyddir arbenigedd y grwpiau hyn gan Ystadegwyr Llywodraeth Cymru wrth benderfynu ar y fethodoleg a'r canlyniadau priodol. Fodd bynnag, y Prif Ystadegydd yn Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch methodoleg, o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol.

 

13.  Cyfarfu'r gweithgorau hyn yn rheolaidd wrth baratoi pob set o amcanestyniadau poblogaeth neu aelwydydd gan fel fforwm ar gyfer trafodaeth dechnegol ar y fethodoleg sy'n datblygu, y data sylfaenol a hanesyddol a chyhoeddi'r amcanestyniadau. Defnyddir meddalwedd bwrpasol ar gyfer yr amcanestyniadau, sef POPGROUP a HOUSEGROUP Wales.

 

14.  Paratowyd adroddiad technegol ar gyfer Amcanestyniadau Poblogaeth Awdurdodau Lleol ac Amcanestyniadau Aelwydydd Cymru ill dau, a roddodd esboniad manwl o'r modelau a'r rhesymeg drostynt, yn ogystal â'r cyfrifiadau, y data sylfaenol a'r modd y cyfrifwyd am anwadalrwydd wrth bennu'r tybiaethau.

 

Prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau amrywiadol

15.  O ran amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd, mae nifer o amcanestyniadau ar gael yn y deunydd cyhoeddedig. Mae'r prif amcanestyniad yn seiliedig ar dueddiadau diweddar o ran genedigaethau, marwolaethau a mudo yn ogystal â gwybodaeth flaenorol am gyfraddau aelodaeth aelwydydd preifat. 

 

  1. Er mwyn dangos yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcanestyniadau, cyhoeddwyd hefyd y tri amcanestyniad amrywiadol ar gyfer pob awdurdod lleol ochr yn ochr â'r prif amcanestyniad poblogaeth.  Amcanestyniadau dangosol yw'r rhai amrywiadol hyn er mwyn dangos sut mae amrywiadau posibl mewn tybiaethau ynghylch ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo yn effeithio ar yr amcanestyniadau a sut mae'r effaith hon yn cynyddu wrth i gyfnod yr amcanestyniad fynd rhagddo.  Y tri amcanestyniad amrywiadol a gyhoeddwyd yw:

§  Amcanestyniad mudo sero (newidiadau naturiol yn unig) er mwyn dangos poblogaeth amcanestynedig pob awdurdod lleol pe na bai unrhyw achosion o fudo mewnol neu allanol yn y dyfodol.

§  Amrywiolyn poblogaeth uwch sy'n seiliedig ar y dybiaeth bod cyfraddau ffrwythlondeb uwch a chyfraddau marwolaethau is.

§  Amrywiolyn poblogaeth is sy'n seiliedig ar y dybiaeth bod cyfraddau ffrwythlondeb is a chyfraddau marwolaethau uwch

 

Y defnydd a wneir o amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd

 

  1. Mae cryn ddiddordeb mewn data poblogaeth, mudo ac aelwydydd yng Nghymru, ac felly alw mawr am amcanestyniadau ar lefel awdurdod lleol.  Mae angen i'r rheini sy'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn darparu ystod eang o wasanaethau (gan gynnwys tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol) a helpu i lywio polisïau cynaliadwy, ystyried y boblogaeth yn ôl oedran a rhyw a'r galw posibl am dai yn y dyfodol.  Nid yw'r amcanestyniadau yn darparu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog nac amgylchiadau economaidd sy'n newid ar lefelau poblogaeth, dosbarthiad, newidiadau na natur aelwydydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, maent yn ddefnyddiol fel sail i gynllunio gwasanaethau a rhagweld anghenion yn y dyfodol. Gall amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd nodi tueddiadau sy'n llywio'r cyd-destun ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.

  2. Gwnaed ymdrech gref i ymgysylltu â defnyddwyr ynghylch yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd is-genedlaethol a pharheir i wneud hynny, ac mae'r gwaith o ddatblygu'r allbynnau cyhoeddedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi llenwi bwlch mawr a nodwyd gan ddefnyddwyr.

 

  1. Ymhlith y defnyddwyr allweddol mae:

§  Gweinidogion,

§  Aelodau Cynulliad a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

§  Cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar wasanaethau a pholisïau a gyflawnir gan awdurdodau lleol gan gynnwys Llywodraeth Leol a Chynllunio

§  Aelodau eraill o staff o fewn Cyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

§  Awdurdodau unedol Llywodraeth Cymru (aelodau etholedig a swyddogion),

§  Y GIG,

§  Parciau Cenedlaethol ac ystod eang o sefydliadau eraill.

§  Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

§  Adrannau eraill o'r llywodraeth.

§  Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion.

§  Dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

  1. Defnyddir amcanestyniadau o'r fath at ystod eang o ddibenion, gan gynnwys:

§  Cyngor i Weinidogion

§  Prawfesur gwasanaethau a rhagweld anghenion ar gyfer y dyfodol, e.e. ysgolion, darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

§  Helpu i ddosbarthu setliad refeniw Cyllid Llywodraeth Cymru.

§  Datblygu polisi.

§  Cyfrifo ystadegau pellach e.e. Amcangyfrifon ac Amcanestyniadau Aelwydydd.

§  Fel enwaduron mewn cyfraddau (e.e. cyfraddau genedigaethau).

§  Proffilio, cymariaethau a meincnodi daearyddol.

§  Dadansoddi carfannau o'r boblogaeth a thueddiadau mudo.

§  Rhagweld y galw am dai

§  Helpu i baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol

§  Rhagweld incwm Treth Gyngor

§  Llywio trafodaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r tu hwnt.

 

Cod Ymarfer ar Ystadegau Swyddogol

  1. Gellir defnyddio amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd at ystod eang o ddibenion gan ystod eang o ddefnyddwyr, felly mae'n bwysig eu bod yn cael eu paratoi yn unol â'r Cod Ymarfer ar Ystadegau Swyddogol er mwyn i ddefnyddwyr allu bod yn hyderus eu bod yn cael eu rheoli mewn modd diduedd a gwrthrychol er budd y cyhoedd, eu bod wedi'u llunio'n unol â systemau cadarn, eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr a nodwyd ac wedi'u hegluro'n dda, a'i bod yn hawdd cael gafael arnynt.

22.  Cynhaliodd Awdurdod Ystadegau'r DU, y corff statudol sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu ystadegau swyddogol er budd y cyhoedd, asesiad o amrywiaeth o ystadegau'n ymwneud â phoblogaeth, demograffeg ac aelwydydd yng Nghymru (gan gynnwys amcanestyniadau poblogaeth ac amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol) yn 2010-11.  Yn ei adroddiad[2] ar yr asesiad, sydd ar gael ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU, daw i'r casgliad canlynol:

 

Mae Awdurdod Ystadegau'r DU o'r farn bod yr ystadegau a gwmpesir gan yr adroddiad hwn ar gael yn hawdd, wedi'u cynhyrchu'n unol â systemau cadarn ac wedi'u rheoli mewn modd diduedd a gwrthrychol er budd y cyhoedd, yn unol ag unrhyw bwyntiau gweithredu yn yr adroddiad hwn.

 

23.  Noda Awdurdod Ystadegau'r DU yn benodol fod Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyfathrebu'n dda â'r sawl sy'n defnyddio ei hystadegau poblogaeth a demograffeg a bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal sioeau teithiol ar gyfer awdurdodau lleol, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau am y gwaith o ddatblygu'r allbynnau a chanllawiau ar sut i ddefnyddio'r ystadegau. 
           

24.  Mae ei lythyr dyddiedig 20 Ionawr 2012 (sydd hefyd ar gael ar y wefan[3]) at Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei fod wedi adolygu'r camau a gymerwyd ers yr adroddiad ac yn cadarnhau bod yr allbynnau ystadegol yn bodloni'r Cod Ymarfer fel y gellir eu dynodi'n Ystadegau Cenedlaethol. O dan y Cod Ymarfer, rhaid i ystadegwyr ystyried anghenion defnyddwyr ond Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch methodoleg ac allbynnau.

 

Y defnydd a wneir o Fethodoleg a Modelau gan Awdurdodau Lleol

 

  1. Yn ystod camau cynnar y prosiect i ddatblygu'r fethodoleg, roedd yn amlwg (yn arbennig yn achos amcanestyniadau aelwydydd) y dylid cyhoeddi'r data crai a'r model a ddefnyddiwyd i lunio'r amcanestyniadau i ddefnyddwyr allanol, yn arbennig awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn sgil yr amcanestyniadau poblogaeth, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cytundeb rhannu data gyda SYG er mwyn rhannu'r data perthnasol ag awdurdodau lleol. Comisiynwyd meddalwedd bwrpasol ar gyfer yr amcanestyniadau aelwydydd (sef HOUSEGROUP WALES). Darparwyd y data crai ar gyfer yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd a'r meddalwedd HOUSEGROUP WALES i awdurdodau lleol ledled Cymru yn ogystal â defnyddwyr ar gais.  Mae'r tîm ystadegau hefyd wedi cynnal gweithdai technegol ar gyfer ymchwilwyr ALl er mwyn eu helpu i ddeall a defnyddio'r meddalwedd amcanestyniadau gyda'r ffeiliau data mewnbwn sylfaenol.

 

  1. Cafwyd adborth da gan gyfranogwyr ynghylch y gweithdai hyn a'r digwyddiadau lansio a gynhaliwyd yn 2008 mewn perthynas â'r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol. 

 

  1. Llunnir yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio methodoleg gyson ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru. Fel y cyfryw, maent yn fan cychwyn ar gyfer dadansoddi demograffig pellach ar lefel awdurdod lleol. Serch hynny, drwy sicrhau bod y data crai a'r modelau a ddefnyddir i lunio'r amcanestyniadau ar gael, mae'n bosibl i awdurdodau lleol ddatblygu eu sefyllfaoedd eu hunain er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol, yn seiliedig ar dybiaethau neu ddata amgen. Mae canllawiau gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o sefyllfaoedd amgen mewn Cynlluniau Datblygu Lleol lle y gellir cyfiawnhau hyn gyda thystiolaeth berthnasol.

 

Amseru'r amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd nesaf

 

  1. Yn sgil amseru allbynnau poblogaeth a Chyfrifiad 2011 gan SYG, a'r amser y byddai'n ei gymryd i lunio amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd, penderfynwyd, ar ôl ymgynghori â defnyddwyr allweddol, peidio â llunio amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn seiliedig ar 2010. Yn lle hynny, ystyriwyd ei bod yn ddoeth aros hyd nes y byddai canlyniadau Cyfrifiad 2011 wedi'u cyhoeddi fel y gellid cynnwys y wybodaeth a gynhyrchir ganddynt yn y set nesaf o amcanestyniadau.

 

  1. Bydd y set nesaf o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd yn seiliedig ar 2011 a disgwylir i waith manwl ddechrau ym mis Mawrth 2013 (unwaith y bydd y wybodaeth fanwl o Gyfrifiad 2011 sydd ei hangen ar gyfer yr amcanestyniadau ar gael) a disgwylir y canlyniadau ar gyfer y ddau erbyn diwedd y flwyddyn. Ailsefydlwyd y gweithgor technegol ac mae trafodaeth ynghylch materion methodolegol yn mynd rhagddi. Disgwylir i grŵp Rhanddeiliaid Amcanestyniadau gael ei sefydlu wrth baratoi'r amcanestyniadau hyn er mwyn casglu barn rhanddeiliaid ar allbynnau a'i hystyried.

 

 

 

Sue Leake

Pennaeth Tîm Dadansoddi Dyfodol Cynaliadwy,

Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

16/01/2013

 



[1] Cyn yr amcanestyniadau yn seiliedig ar 2006, comisiynwyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i lunio amcanestyniadau ar gyfer awdurdodau lleol yn seiliedig ar 1998 ac yna 2003 gan ddefnyddio'r model a ddefnyddiwyd ar gyfer amcanestyniadau awdurdodau lleol yn Lloegr. Fodd bynnag, yn ystod y broses sicrhau ansawdd, ar gyfer y ddwy set hyn o amcanestyniadau, penderfynwyd peidio â chyhoeddi'r amcanestyniadau ar lefel awdurdod lleol, gan nad oedd y fethodoleg wedi cynhyrchu canlyniadau cyson ac ystyrlon ar y lefel hon. O dan fethodoleg SYG, ar gyfer pob blwyddyn y lluniwyd amcanestyniadau ar ei chyfer, graddiwyd y cyfraddau ffrwythlondeb a marwolaethau lleol (ALl) fel bod y cyfraddau cenedlaethol a niferoedd amcanestynedig y genedigaethau a marwolaethau yn gyson â'r amcanestyniadau cenedlaethol.   Er bod graddio'r cyfraddau genedigaethau a marwolaethau wedi sicrhau bod cyfanswm y genedigaethau a marwolaethau yn gyson â'r amcanestyniadau cenedlaethol, nid oedd y cyfraddau lleol yn adlewyrchu tueddiadau lleol diweddar. Arweiniodd hyn at gyhoeddi'r amcanestyniadau ar lefel ranbarthol yn unig.

[2] http://www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/assessment/assessment-reports/assessment-report-101---statistics-on-population--demography-and-households-in-wales.pdf

 

[3]http://www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/assessment/assessment-reports/confirmation-of-designation-letters/letter-of-confirmation-as-national-statistics---assessment-report-101.pdf